Tê Prynhawn Sefydliad DPJ

Ydych chi eisiau helpu ni?

Yn Sefydliad DPJ, rydym yn dibynnu ar y gymuned ffermio i’n helpu: boed hynny’n codi ymwybyddiaeth ac yn herio’r stigma, neu fod ar ddiwedd y ffôn i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth. Ymunwch â ni i ddod â phobl ynghyd yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon dros baned a chacen.

Gadewch i ni frwydro yn erbyn unigrwydd gyda’n gilydd.

Rhwng

Rhwng y 9fed a 15fed o Fai 2022 mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a’r thema eleni yw Unigrwydd. Rydym yn galw ar bobl yng Nghymru i wisgo eu ffedogau, cael y llwch oddi ar eu tuniau cacennau a dechrau pobi ac yna’n bwysicaf oll i rannu eu nwyddau gyda’u cymdogion a’u ffrindiau dros baned fel rhan o “Te Prynhawn Sefydliad DPJ”.

Os ydych chi yn yr ysgol, yn y gwaith neu gartref ac eisiau cymryd rhan, mae mor syml â rhoid y tegell ymlaen, gwisgo’ch ffedog a dechrau pobi. Gallwch gefnogi ffermwyr eich ardal drwy brynu wyau Cymreig, menyn a llaeth yn ogystal â blawd o’ch siop leol i ddangos eich gwerthfawrogiad a hyd yn oed rhoi cacen iddynt neu eu gwahodd am baned. Dyma gyfle i ddod â phobl at ei gilydd, mwynhau paned a chacen wrth gael sgwrs a dal i fyny ac ar yr un pryd helpu i drechu unigrwydd.

Cofrestrwch eich digwyddiad trwy e-bostio elen@thedpjfoundation.co.uk gyda’r dyddiad, amser a lleoliad ac os yw eich digwyddiad yn agored i’r cyhoedd a lawrlwythwch y pecyn prynhawn am ddim.

 

Pecyn Te Prynhawn DPJ

Llun cyfryngau cymdeithasol

Poster Te Prynhawn

Poster llenwi mewn