
rhannwch y baich...
Cefnogi’r rhai yn y sector amaethyddol sydd ag iechyd meddwl gwael drwy ddarparu cymorth, lledaenu ymwybyddiaeth a hyfforddi’r rhai mewn ffermio i fod yn ymwybodol o iechyd meddwl gwael a’i effaith o fewn ein cymunedau.
Byddwch yno i bobl sydd angen rhywun
Yn Sefydliad DPJ, rydym yn dibynnu ar y gymuned ffermio i’n helpu: boed hynny’n codi ymwybyddiaeth ac yn herio’r stigma, neu fod ar ddiwedd y ffôn i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth. Gallwch chi helpu ein cymuned trwy ddod yn wirfoddolwr “Rhannwch Y Baich”.
Fel gwirfoddolwr Rhannwch y Baich byddwch yn ateb galwadau a negeseuon oddiwrth bobl sydd gwir angen siarad â rhywun. Efallai y byddant yn teimlo’n isel iawn, neu efallai yn unig a bod neb ar gael i gynnig cymorth iddynt. Rydym yn chwilio am pobl sy’n gallu gwrando, heb farnu, ac sy’n gallu cynnig cefnogaeth pan fydd mwyaf ei angen ar y person.