Cefnogi’r rhai yn y sector amaethyddol sydd ag iechyd meddwl gwael drwy ddarparu cymorth, lledaenu ymwybyddiaeth a hyfforddi’r rhai mewn ffermio i fod yn ymwybodol o iechyd meddwl gwael a’i effaith o fewn ein cymunedau.
Yn Sefydliad DPJ, rydym yn dibynnu ar y gymuned ffermio i’n helpu: boed hynny’n codi ymwybyddiaeth ac yn herio’r stigma, neu fod ar ddiwedd y ffôn i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth. Gallwch chi helpu ein cymuned trwy ddod yn wirfoddolwr “Hyrwyddwr Rhanbarthol”.
Rȏl hyrwyddwr rhanbarthol yw gweithredu fel llygaid, clustiau a phresenoldeb y Sefydliad DPJ ar lawr gwlad yn eich ardal chi. Mae ein hyrwyddwyr rhanbarthol wedi’u lleoli ar draws Cymru ac yn gweithio yn eu cymunedau lleol. Nhw yw cynrychiolwyr lleol y Sefydliad DPJ yn yr ardal honno.
Beth allech chi ei wneud...
Gall rȏl hyrwyddwr rhanbarthol fod yn amrywiol, yn dibynnu ar ba gryfderau a chyfyngiadau amser sydd gan y gwirfoddolwr unigol. Gallai gynnwys:
Mynychu digwyddiadau fel llysgennad DPJ – gallai hyn fod yn ddigwyddiad megis sioe, lle y byddai’r hyrwyddwr yn gyfrifol am osod stondin, a’i gynnal a siarad gyda phobl am waith y Sefydliad DPJ a’r hyn y mae’n ei gynnig.
Siarad mewn digwyddiadau neu gyda chlybiau a grwpiau – rydym yn cael ein gwahodd i lawer o wahanol ddigwyddiadau (wyneb yn wyneb neu ar-lein) i sȏn am waith DPJ – mae rhai hyrwyddwyr yn hyderus pan yn annerch grwpiau bach, ac weithiau grwpiau mwy o nifer, am waith y sefydliad, ble y dechreuodd a’r hyn mae’n ei wneud. Mae pob gwirfoddolwr yn derbyn cyflwyniad a’r holl wybodaeth sydd ei angen arnynt ac yn derbyn hyffordiant.
Lledu ymwybyddiaeth – gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau yn eu cymunedau, mae ein hyrwyddwyr rhanbarthol yn chwilio am gyfleoedd i osod posteri a sticeri er mwyn lledu ymwybyddiaeth. Gan taw nhw sy’n adnabod eu hardal orau, maen nhw’n chwilio am gyfleoedd y gall y DPJ fod yn rhan ohonynt, sef digwyddiadau, busnesau, ayyb. Mae rhai o’n Hyrwyddwyr Rhanbarthol wedi ymweld â delwriaethau tractor neu farchnadoedd i ofyn iddynt arddangos sticeri neu bosteri. Mae eraill wedi ymweld â thafarndai a chlybiau rygbi lleol. Mae rhai o’n gwirfoddolwyr wedi ysgrifennu erthyglau i’r papur newydd lleol, wedi blogio neu flogio, neu ymddangos ar y teledu neu’r radio i sȏn am y DPJ a’r rhesymau dros wirfoddoli.
Casglu rhoddion – yn aml, rydym yn derbyn cais i gasglu siec neu roddion. Ein hyrwyddwyr rhanbarthol yw’r cynrychiolwyr lleol sy’n mynychu’r digwyddiad ac yn derbyn sieciau ar ran DPJ, ac yn adeiladu ar y cysylltiadau hynny ac yn esbonio ein gwaith.
I wirfoddoli yn y rôl hon, rhaid i chi fod:
Yn fodlon dod yn rhan o dîm Sefydliad DPJ ac yn angerddol am gyfleu ein negeseuon.
Yn deall bywyd ffermio ac yn gwerthfawrogi rhai o’r heriau sydd ynghlwm â’r ffordd yma o fyw.
Yn angerddol dros wella iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig ac yn cael ei ysgogi i gael mwy o bobl i gael cymorth pan fydd ei angen arnynt.
Yn gallu ymrwymo i wirfoddoli gyda ni am o leiaf blwyddyn: rydym yn gobeithio unwaith y byddwch yn ymuno â ni, y byddwch am aros yn rhan o deulu Sefydliad DPJ.
18 oed neu hŷn (os ydych yn iau, edrychwch ar ein tudalen Hyrwyddwyr Myfyrwyr).
Ymrwymiad amser a chefnogaeth barhaus
Mae’r rȏl yn un hyblyg a gall y gwirfoddolwr ei chyflawni ar adeg sy’n siwtio ei amgylchiadau. Mae hefyd gan wirfoddolwyr y cyfle i ymestyn y rȏl a mynd cam ymhellach pe byddent am wneud hynny. Mae pob gwirfoddolwr yn rhan o grŵp cymdeithasol arlein, lle y gall aelodau’r grŵp rhannu syniadau, trafod digwyddiadau a derbyn cefnogaeth.
Gwahoddir pob gwirfoddolwr i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sydd ei angen arnynt, gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, anfonwch e-bost atom ar kate@thedpjfoundation.co.uk yn esbonio ble rydych chi’n byw a pham yr hoffech chi gymryd rhan.
Geiriau gan ein gwirfoddolwyr
Fel un a phrofiad o daith iechyd meddwl heriol gydol oes, rwy’n angerddol am bwysigrwydd iechyd meddwl. Rwyf hefyd yn angerddol am ffermio. Yn dilyn hunanladdiad ffermwr yr oeddwn yn ei adnabod ers fy mhlentyndod, teimlais awydd cryf i wneud rhywbeth i gefnogi iechyd meddwl pobl â brwydrau tebyg yn y sector amaethyddol. Chwiliais am beth amser, a phan ymddangosodd Sefydliad DPJ yn fy ffrwd Facebook cysylltais â nhw ar unwaith i wirfoddoli.
Rwyf wedi bod yn Pencampwr Rhanbarthol gyda Sefydliad DPJ am tair blynedd a hanner, ers mis Chwefror 2020. Rwy’n canolbwyntio ar ardal Uwch Conwy o gwmpas lle rwy’n byw ac yn gweithio, ac mae fy mhlant yn mynd i’r ysgol. Byddaf hefyd yn mynychu digwyddiadau yng Ngwynedd a Sir Ddinbych yn achlysurol. Rwy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol a phapurau bro lleol i dynnu sylw at waith yr elusen. Rwy’n cysylltu ag elusennau iechyd meddwl eraill fel Papyrus a Mind, y GIG, meddygfeydd, yr heddlu, milfeddygon, marchnadoedd, cyflenwyr amaethyddol, cigyddion, clerigwyr, ysgolion a cholegau, CFfI, RSPB, APCE, a’r rhwydweithiau cymorth ffermio – NFU, FUW, Tir Dewi, FCN, RABI ac ati yn ogystal â ffermwyr a gweithwyr amaethyddol i hyrwyddo’r gwasanaeth y mae Sefydliad DPJ yn ei ddarparu.
Yn bennaf rwy’n mynychu sioeau a threialon cŵn defaid, gydag ambell gneifio cyflym, ffair y glas a digwyddiad wythnos iechyd meddwl. Rwyf wedi ysgrifennu erthygl ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar gyfer The Youngstock, cylchgrawn amaethyddol i blant, ac wedi creu a chyflwyno gweithdy ar ddeallusrwydd emosiynol i fyfyrwyr ysgol uwchradd.
Rwyf wrth fy modd yn sgwrsio â phobl wyneb yn wyneb ac yn teimlo nad ydych byth yn gwybod pwy fydd yn dod atoch i rannu eu taith iechyd meddwl. Mae bob amser yn fuddiol cael ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a rhai sgiliau i fod yn gefnogol neu i wybod sut i wrando ac efallai cyfeirio. Mae’n anrhydedd i mi fod yn rhan fach o’r rhwydwaith cymorth sy’n datblygu o amgylch y sector amaethyddol yng Nghymru.
Byddwch yn Rhan o'r Ateb
"Efallai na fydd yn hawdd, ond bydd yn werth chweil"