Bydd yr haul yn codi a byddwn yn rhoi cynnig arall arni

Hyfforddiant

Mae angen i bob un ohonom fod yn fwy hyderus wrth sylwi ar arwyddion iechyd meddwl gwael a chyfeirio ymlaen.

Ar gyfer ymholiadau hyfforddi cysylltwch â Kay Helyar ar kay@thedpjfoundation.co.uk neu ffoniwch 07984 169507.

Ein Pecyn Hyfforddi

Gall Sefydliad DPJ ddarparu ‘Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl’ sef ein pecyn hyfforddi pwrpasol ein hunain.  Mae dros 1500 o bobl wedi derbyn ein hyfforddiant arbenigol ers mis Awst 2018.

Ein System Cymorth 5 Cam

Mae ein hyfforddi Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn caniatáu i unigolion a fusnesau gael dealltwriaeth glir o sut i gefnogi’r rheini ag iechyd meddwl gwael. Mae ein digwyddiadau diwrnod hyfforddi yn seiliedig ar ddarparu gwybodaeth a ffeithiau am faterion iechyd meddwl yng Nghymru ac yn enwedig y sector amaethyddol, yn ogystal â rhoi arfau ymarferol i chi i helpu.

Rydym yn archwilio’r cyflyrau iechyd meddwl mwyaf cyffredin ac yn esbonio system sgiliau 5 cam a fydd yn eich galluogi i adael gyda dealltwriaeth glir o sut i gefnogi unigolion ag iechyd meddwl gwael.  Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd rydym yn gallu cynnig lleoedd unigol yn rhad ac am ddim.

I cael lle ar ein hyffoddiant wedi’i ariannu:

Mental Health First Aid Training

Bydd y Diwrnodau Hyfforddi yn cynnwys y canlynol:

  • Trosolwg o Sefydliad DPJ
  • Beth yw iechyd meddwl?
  • Iechyd meddwl yng Nghymru ac Amaethyddiaeth
  • Stigma
  • Iselder
  • Ymwybyddiaeth ac Atal Hunanladdiad
  • SHARE (y system sgiliau 5 cam)
  • Pryder
  • Hunan-niwed
  • Seicosis
  • Adolygu
  • Symud ymlaen – cynllunio sut i ddefnyddio’r hyfforddiant hwn yn y dyfodol ac unrhyw gwestiynau.

Mae ein holl weithgareddau hyfforddi wedi’u seilio ar grwpiau ac yn ymarferol i annog trafodaeth. Rydym yn defnyddio enghreifftiau fideo drwy gydol y dydd sy’n dangos profiadau ffermwyr yr ydym wedi gweithio gyda nhw.

Geirdaon

Rydym yn archwilio’r cyflyrau iechyd meddwl mwyaf cyffredin a all wynebu llawer mewn gwahanol sectorau yn ystod ein diwrnodau hyfforddi Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, dyma beth oedd barn rhai o’n cyfranogwyr am ein digwyddiadau.

“Cwrs rhagorol sy'n rhoi'r sgiliau i bobl fynd allan i'r gymuned a chwalu'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac i gefnogi unrhyw un a allai fod yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.”

Gweithiwr Fferm

“Un o'r cyrsiau gorau dwi erioed wedi bod arno, byddai'n dda gen i pe byddwn wedi bod ar yr hyfforddiant hwn pan oeddwn yn 18 mlwydd oed. Yn anffodus, nid oedd unrhyw un yn siarad am hyn pan oeddwn i’n iau. Diolch am heddiw.”

Swyddog safonau masnach

“Diwrnod diddorol iawn yn llawn gwybodaeth.”

Milfeddyg, Sir Gaerfyrddin

Trefnu diwrnod hyfforddi

Os hoffech chi drefnu diwrnod hyfforddi gyda ni neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni!