Rhannwch Y Baich...

Yn cefnogi’r rheini yn y sector amaethyddol sydd ag iechyd meddwl gwael drwy roi cymorth, lledaenu ymwybyddiaeth a hyfforddi’r rhai ym maes ffermio i fod yn ymwybodol o iechyd meddwl gwael a’i broblem yn ein sector.

'Nid lle newydd yw dechrau newydd. Ond meddylfryd newydd...'

Sefydlwyd Sefydliad DPJ ym mis Gorffennaf 2016 yn Sir Benfro, i gefnogi’r rheini yn y sector amaethyddol. Mae’r elusen iechyd meddwl ffermio wedi tyfu ac mae’n cwmpasu Cymru gyfan gyda phob maes cymorth. Mae Sefydliad DPJ yn gweithio gyda sefydliadau blaenllaw yn y sector gan gynnwys NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, CFfI, milfeddygon a Llywodraeth Cymru i helpu i ddarparu gwasanaeth hygyrch a hyblyg.

daniel picton-jones mental health support services

Daniel Picton-Jones

Sefydlwyd Sefydliad DPJ ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones. Nod Sefydliad DPJ yw cefnogi’r rhai yn y sector amaethyddol sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael. Ni chafodd Daniel ddiagnosis ar gyfer ei iechyd meddwl, ac roedd nifer na welodd ei iechyd meddwl. Roedd Daniel yn gontractwr amaethyddol, roedd yn rhan o sector â’r gyfradd uchaf o hunanladdiad. Penderfynodd ei weddw Emma greu’r sefydliad i gefnogi’r sector iechyd meddwl ffermio, i’r rhai sy’n teimlo’n union fel y gwnaeth Daniel, gan roi’r cymorth nad oedd yn gwybod sut i’w gael.

Mae atal yn well na gwella.

Weithiau mae’n haws siarad â dieithryn nag â pherthnasau neu ffrindiau. Yn ystod therapi siarad, mae cwnselydd neu therapydd hyfforddedig yn gwrando arnoch chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i’ch atebion eich hun i broblemau, heb eich barnu.

Bydd ein cwnselwyr yn rhoi amser i chi siarad, crio, gweiddi neu feddwl. Mae’n gyfle i edrych ar eich problemau mewn ffordd wahanol gyda rhywun a fydd yn eich parchu chi a’ch barn.

Darllenwch fwy am Sefydliad DPJ

Drwy gwnsela a hyfforddiant gallwn gefnogi iechyd meddwl ffermwyr a phobl sy’n gweithio yn y cymunedau gwledig.

Cymorth i Godi Ymwybyddiaeth

“Ni allwch wella oes o boen dros nos, byddwch yn amyneddgar â chi eich hun, mae'n cymryd cyn hired ag y mae'n ei gymryd i ailadeiladu eich hun.”