Gwirfoddolwr Lori

YDYCH CHI'N HYDERUS, HYGYRCH AG YCHYDIG ORIAU I'W SBARIO BOB WYTHNOS?

Mae angen gwirfoddolwyr arnom ar ein lori ganolfan iechyd newydd mewn gwahanol leoliadau ledled Gogledd Cymru i gefnogi ein prosiect newydd cyffrous yn ogystal ag aelodau tîm newydd ar gyfer ein lori sefydledig yn Ne-orllewin Cymru.

Mae gwirfoddoli ar y lori yn cynnwys siarad â ffermwyr a’u hannog i ddod ar y lori am brawf iechyd am ddim. Gall hefyd gynnwys gwneud paneidiau o de a gwneud i’r bobl sy’n dod ar y lori deimlo’n gartrefol.

Fel arfer, rydym yn gofyn am ychydig oriau yn ystod yr wythnos ar ddiwrnod marchnad (fel arfer o tua 10yb-2:30yp). Bydd angen help arnom hefyd yn rhai o’r sioeau amaethyddol drwy gydol yr haf sydd weithiau’n digwydd ar benwythnosau.

Rydym hefyd yn chwilio am bobl i yrru ein lori yng Ngogledd Cymru i’n helpu i’w chael o A i B. Mae angen i chi naill ai fod â thrwydded HGV neu fod wedi pasio’ch prawf gyrru cyn 1 Ionawr 1997.

Nurse applying a blood pressure cuff

NYRSYS COFRESTREDIG

Rydym hefyd angen gwasanaethau nifer fach o Nyrsys Cofrestredig sy’n gallu cynnal archwiliadau iechyd sylfaenol ar ein rhan yng Ngogledd Cymru. Byddai hyn yn addas i rywun sydd â rhai oriau sbâr, a fyddai’n cyd-fynd â rôl arall. Bydd angen aelodaeth o’r Coleg Nyrsio Brenhinol arnoch a’ch yswiriant indemniad eich hun (trwy’ch aelodaeth neu fel arall). Bydd angen i chi hefyd fod yn gyfforddus yn cael sgyrsiau â phobl am bynciau sy’n sensitif yn emosiynol (gallwn drefnu hyfforddiant pellach ar hyn) gan gynnwys o bosibl am hunanladdiad a gweithio mewn amgylchedd marchnad dda byw.