Nid eich cyrchfan olaf chi yw eich sefyllfa bresennol

Cael Help

Rydyn ni yma i wrando a helpu, nid i farnu.

Rhoi Cymorth

Mae amaethyddiaeth yn cario un o’r cyfraddau hunanladdiad uchaf a gydag iechyd meddwl mewn amaethyddiaeth yn broblem mor fawr ar draws cymdeithas, nod y sefydliad yw chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a darparu gwasanaethau cymorth i’r rheini mewn cymunedau gwledig.

Mae ffermio’n yrfa ragorol a gall ddod â buddiannau enfawr i’r rhai sy’n gweithio yn y sector. Fodd bynnag, mae’n yrfa sy’n dod gyda phwysau, unigedd a galw enfawr bob dydd

Yn Sefydliad DPJ, gallwn roi cymorth rhagweithiol i ffermwyr a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell.

Photo of volunteers helping to promote support for mental health in agriculture in Wales

Siarad â Ni

Ffoniwch ein llinell gymorth 24 awr i siarad ag un o’n gwirfoddolwyr a all fod yno i wrando neu a all drefnu i chi siarad gyda chwnselydd neu os nad ydych chi’n hoff o siarad ar y ffôn yna anfonwch neges destun atom ni a gallwn sgwrsio â chi drwy neges destun neu eich ffonio’n ôl.  Mae ein gwasanaeth yn hollol gyfrinachol.

Weithiau mae’n haws siarad â dieithryn nag â pherthnasau neu ffrindiau. Yn ystod therapi siarad, mae cwnselydd neu therapydd hyfforddedig yn gwrando arnoch chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i’ch atebion eich hun i broblemau, heb eich barnu. Bydd y therapydd yn rhoi amser i chi siarad, crio, gweiddi neu feddwl.

Mae’n gyfle i edrych ar eich problemau mewn ffordd wahanol gyda rhywun a fydd yn eich parchu chi a’ch barn.

Cymra pum muned ma rhywun wastad wrth dy ochr

Rhannu'r Llwyth

Mae ein gwasanaeth cyfeirio at gwnsela 24/7 yn benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth, ‘Rhannu’r Llwyth’, yn sicrhau y bydd cwnselydd yn cysylltu â’r rhai sy’n galw, o fewn 48 awr ac yn eu gweld o fewn wythnos. Rydym yn cynnig cwnsela allgymorth (ar y fferm) ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb mewn lleoliad oddi ar y fferm.

Mae gennym gwnselwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith ar gael i chi.

Ar ôl ei lansio yn Sir Benfro ym mis Ionawr 2018, gan gefnogi dros 40 o ffermwyr, lansiwyd y gwasanaeth cwnsela sy’n cefnogi iechyd meddwl mewn amaethyddiaeth yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys, gan symud ymlaen i Gymru gyfan ym mis Awst 2019, yn dilyn chwistrelliad o £40,000 gan Lywodraeth Cymru.

Yn y 5 blynedd ers sefydlu’r gwasanaeth, rydym wedi galluogi dros 800 o bobl ar draws Cymru gyfan i gael mynediad at gwnsela.

Pam Dewis Cwnsela

Mae gennym dros 30 o wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi gan y Samariaid sy’n rhedeg y llinell alwadau a’r gwasanaeth negeseuon testun a gallwn gynnig sesiynau diderfyn i unigolion elwa o’n gwasanaeth ledled Cymru

  • Rhoi arfau i chi y gallwch eu defnyddio ar unwaith
  • Gwella hunanhyder
  • Datrys materion cyfathrebu
  • Newid credoau cyfyngol
  • Hunan-barch gwych
  • Rhyddhad o iselder, pryder, caethiwed, unigrwydd
  • Teimlo’n obeithiol am y dyfodol a rheoli newidiadau bywyd
  • Delio â ffactorau emosiynol sy’n creu’r angen i yfed, mynd yn ddig, neu ddefnyddio sylweddau
  • Cael cipolwg ar batrymau a dealltwriaeth ddyfnach ohonoch chi eich hun
  • Dysgu sgiliau cyfathrebu effeithiol
  • Gwneud y newidiadau angenrheidiol yn eich bywyd

Bydd ein cwnselwyr yn eich gweld mewn tref leol, yn eich cartref eich hun neu ar y fferm, apwyntiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Mae gennym gwnselwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith ledled Cymru.

Help i Godi Ymwybyddiaeth

Heddiw yw'r cyfle i adeiladu'r fory rydych chi ei eisiau