
Cymerwch amser i werthfawrogi'r harddwch yn y pethau bach bob dydd
Beth Rydyn Ni’n Ei Wneud
Sefydliad DPJ yw’r elusen iechyd meddwl yng Nghymru i gefnogi’r rheini mewn cymunedau gwledig ac mewn amaethyddiaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Sefydliad DPJ yw’r elusen iechyd meddwl yng Nghymru i gefnogi’r rheini mewn cymunedau gwledig ac mewn amaethyddiaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Sefydlwyd y Sefydliad ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones. Fe wnaeth hunanladdiad Daniel siglo’r gymuned, sylweddolodd ei wraig Emma yn gyflym iawn y diffyg cefnogaeth a oedd ar gael i’r rhai sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael mewn cymunedau gwledig. Cyhoeddwyd yn angladd Daniel y byddai cronfa’n cael ei sefydlu a fyddai’n rhoi cymorth i’r rheini, fel Daniel, a oedd yn dioddef o iechyd meddwl gwael. Daeth yn amlwg bod diffyg ymwybyddiaeth ynghylch iechyd meddwl, roedd hunanladdiad wedi cyffwrdd â phawb ond ychydig iawn oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r mater.
Roedd Daniel yn gontractwr amaethyddol ac roedd yn hoffus iawn ac yn adnabyddus ledled y gymuned. Roedd ei gysylltiadau cryf â’r sector amaethyddol ynghyd ag Emma oedd yn ferch i ffermwr yn ei gwneud yn llwybr amlwg i fynd ar ei hyd pan ddaeth i gefnogi. Daeth yn amlwg hefyd mai amaethyddiaeth oedd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiad, ac eto ychydig oedd yn cael ei wneud i helpu hyn. Mae Emma wedi defnyddio Daniel fel sail ar gyfer popeth mae’r sefydliad wedi mynd ymlaen i’w wneud. Roedd Daniel yn gymeriad tawel gyda llawer o gariad a gofal i’r rhai o’i amgylch, byddai’n casáu’r syniad o unrhyw un yn dioddef neu’n teimlo’r ffordd yr oedd o ei hun yn teimlo. Yn ei enw mae Sefydliad DPJ yn defnyddio stori Daniel i helpu eraill.
Mae tri phrif elfen i’n gwasanaeth: Cymorth drwy gwnsela lleol penodol, Ymwybyddiaeth drwy gyfryngau cymdeithasol yn trafod iechyd meddwl, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rydym yn cynnig pecyn hyfforddi pwrpasol i helpu
Rhannwch Y Baich yw ein gwasanaeth cyfeirio at gwnsela 24/7 sy’n gweithredu’n benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth. Sefydlwyd hwn oherwydd yr amseroedd aros hir sy’n gysylltiedig â chwnsela a’r anhawster i gael gafael ar gymorth. Mae gennym dros 30 o wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi gan y Samariaid sy’n rhedeg y llinell alwadau a’r gwasanaeth negeseuon testun. Mae ein gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol.
Hyd yma, rydym wedi cefnogi dros 500 o ffermwyr ledled Cymru.
Rydym yn rhoi faint bynnag o sesiynau sydd eu hangen ar gyfer yr unigolyn – nid oes cyfyngiad ar y rhain.
Rydym yn defnyddio’r holl gyfryngau cymdeithasol a sgyrsiau mewn digwyddiadau i ledaenu ymwybyddiaeth a chael pobl i siarad am iechyd meddwl. Gyda thros 9000 o ddilynwyr ar Facebook a bron 2000 ar Twitter ac Instagram. Rydym yn gweld mai dyma’r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o gyfleu ein negeseuon dyddiol o gymorth a gwybodaeth am iechyd meddwl.
Drwy’r teledu a’n trafodaethau wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau, mae ein neges wedi’i lledaenu i dros 14 miliwn o bobl hyd yma!
Mae’r teledu’n cynnwys: Pride of Britain, Countryfile, Newyddion BBC, Newyddion Cenedlaethol, Ffermio.
Y syniad ynghylch ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chymorth cyntaf yw rhoi’r gallu i’r gymuned gefnogi ei gilydd a bod yn hyderus wrth sylwi ar arwyddion o iechyd meddwl gwael a chyfeirio ymlaen.
Rydym yn darparu Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl neu Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – pecyn hyfforddi pwrpasol.